Archifdy Sir Benfro
*** NEGES BWYSIG YA: ORIAU AGOR DROS Y PASG ***
Dydd Mercher 13.04.2022: 10-4
Dydd Iau 14.04.2022: 10-4
Dydd Gwener y Groglith 15.04.2022: AR GAU
Yn ail-agor ddydd Mercher 20.04.2022: 10-4
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Bydd mynediad i'r cyhoedd trwy apwyntiad yn unig a rhaid i bawb ffonio 01437 775975 rhwng 10yb a 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener er mwyn cadw lle. Peidiwch â defnyddio'r rhif ffôn hwn am unrhyw ymholiadau eraill. Dylech barhau i gyfeirio'r holl ymholiadau eraill ynghylch y gwasanaeth Archifdy ac Astudiaethau Lleol i 01437 775456. Dylid ffonio 01437 775978 ar gyfer yr holl ymholiadau sy'n ymwneud â rhaglen frechu COVID-19.
Mae o hyd yn ofyniad i wisgo masgiau wyneb yn yr adeilad oni bai eu bod wedi'u heithio rhag gwneud hynny am resymau meddygol. Er mwyn cefnogi gwaith y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu yng Nghymru, byddwn yn cofnodi'r wybodaeth angenrheidiol. Mae hyn yn gofyn am enw llawn o leiaf ac o leiaf un rhif ffôn cyswllt cyfredol sy'n gywir.
Argymhellwn yn gryf eich bod yn gwneud ceisiadau am ddeunydd gwreiddiol cyn eich ymweliad. Gofynnir i chi wneud cais am ddeunydd gwreiddiol trwy e-bostio record.office@pembrokeshire.gov.uk gan roi cymaint o rybudd ag sy'n bosibl cyn eich ymweliad, sef 48 awr yn ddefrydol.
Gellir dod o hyd i fanylion llawn y gweithdrefnau newydd yma Gweithdrefnau Newydd
Oriau Agor
· Dydd Iau a Dydd Gwener: 10yb - 4yp yn unig (Gweler y neges uchod ar gyfer ein horiau agor dros y Pasg)
Cyfleusterau
· Mynediad am ddim
· Mynediad i gadeiriau olwyn
· Maes parcio am ddim
· Toiledau (gan gynnwys toiled i bobl anabl)
· Dolen sain symudol
· Byrddau y gellir addasu eu huchder
· Loceri - bydd angen darn £1 arnoch (caiff ei ddychwelyd)
Y gwasanaethau sydd ar gael:
· Llungopïo (yn dibynnu ar faint a chyflwr y ddogfen)
· Argraffiadau microffilm/fiche
· Argraffiadau o'r rhyngrwyd
· Gwasanaeth Ymchwil
· Reprograffeg Ddigidol
· Ymweliadau grŵp gan gynnwys taith y tu ôl i'r llenni
Codir ffi am y gwasanaethau ychwanegol hyn.
Oes gennych chi ddiddordeb yn eich cyndeidiau, hanes eich cartref, stori eich pentref, plwyf, tref, eglwys, capel neu unrhyw agwedd ar hanes Sir Benfro? Mae Archifdy Sir Benfro ac Astudiaethau Lleol Sir yn cadw ffynonellau hanesyddol yn amrywio o ddogfen o 1272 i bapur newydd lleol yr wythnos ddiwethaf. Ymysg ein casgliadau niferus mae ffurflenni cyfrifiad, cofrestrau plwyf, mapiau, ffotograffau, gweithredoedd a llythyrau. At hynny, mae gennym amrywiaeth fawr o lyfrau ac effemera lleol yn ymwneud â Sir Benfro a Chymru.
Ein polisïau:
Polisi Gofalu am a Gwarchod Casgliadau
Polisi Gwybodaeth am Gasgliadau
Polisi Arddangosfa ac Arddangos
