Creu'r Tapestri

Dysgwch am y gwaith o Greu'r Tapestri, gan gynnwys yr amser a dreuliwyd yn ei greu, faint o liwiau a ddefnyddiwyd a sawl gwirfoddolwr a gymerodd ran.

Darllenwch Fwy »

Dod o hyd i ni

Cysylltu â Ni / Oriau Agor

O 3 Hydref 2022, bydd tâl mynediad i'r Tapestri:


  • Llyfrgell Abergwaun, Neuadd y Dref, Y Sgwâr, Abergwaun SA65 9HA
  • 01437 776638
  • Ebrill-Medi: Llun-Merch 10am-5pm, Iau 10am-6pm, Gwe 10am-5pm, Sad 10am-4pm
  • Hydref-Mawrth: Llun-Merch 10am-5pm, Iau 10am-6pm, Gwe 10am-5pm, Sad 10am-1pm

Ynglŷn â Thapestri Abergwaun

Ym 1797 glaniodd byddin o Ffrainc dair milltir i'r gorllewin o Abergwaun yn Sir Benfro, Cymru - y goresgyniad olaf erioed ar dir mawr Prydain.

Ar ôl cael ei gomisiynu fel etifeddiaeth barhaol fel rhan o goffâd Deucanmlwyddiant y Goresgyniad ym 1997, mae Tapestri Glaniad y Ffrancod, sy'n 100 troedfedd o hyd ac a gymerodd 4 blynedd i'w gwblhau â dwylo 80 o bobl, yn adrodd y stori unigryw a diddorol hon am y goresgyniad olaf ar dir mawr Prydain.

Wedi'i leoli mewn oriel bwrpasol 30 metr o hyd o fewn Llyfrgell Abergwaun, mae arddangosfa Tapestri Glaniad y Ffrancod hefyd yn cynnwys eitemau a ffilmiau, a gallwch ddysgu mwy am ddigwyddiadau'r deucanmlwyddiant, y goresgyniad olaf a'r gwaith o greu'r Tapestri.