Rhestr o Gardiau Post
· Llanrath
· Angle
· Llangwm
· Arberth
· Neyland
· Penfro
· Solfach
· Tyddewi
Ar ôl cael ei eni yn Hwlffordd ym 1954, cafodd Hywel Davies ei addysgu yn Ysgol Gynradd Ffordd y Gogledd (Aberdaugleddau), Coleg Wycliffe (Swydd Gaerloyw), Prifysgol Birmingham a Phrifysgol Aberystwyth. Graddiodd mewn Ffrangeg a Sbaeneg ac mae ganddo Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg. Bu Mr Davies yn athro a darlithydd Ieithoedd Modern, ond mae wedi ymddeol erbyn hyn.
Mae Hywel yn un o sylfaenwyr Mind Sir Benfro, Grŵp Hearing Voices Sir Benfro a Rhwydwaith Hearing Voices Cymru. Mae'n Aelod nodedig o Lyfrgell Ryngwladol y Beirdd.
Dechreuodd Hywel Davies gasglu cardiau post o Sir Benfro o'r cyfnod cyn 1940 ym 1979. Mae'n credu mai'r ddau gerdyn post cyntaf iddo'u prynu fel casglwr oedd golygfeydd o Draeth y De yn Ninbych-y-pysgod o 1904. Yr hyn a wnaeth y cardiau post yn ddiddorol oedd y bobl a'r cabanau Edwardaidd ar y traeth ei hun. Dechreuodd gasglu hen gardiau post o Sir Benfro gan ei fod yn ymddiddori mewn hanes.
Dechreuodd casgliad Hywel o gardiau post Sir Benfro dyfu ar hyd y blynyddoedd, ac wrth i amser fynd heibio dechreuodd gasglu cardiau post ar themâu eraill, ar wahân i gardiau post topograffig o Sir Benfro.
Roedd y themâu hyn yn cynnwys Gorsafoedd Rheilffordd Cymru, Trychinebau Cymru, Hanes Topograffig a Chymdeithasol Ffrainc, Louis Wain, Modern, Philip Boileau ymysg eraill. Casglodd y rhain am amrywiaeth o resymau. Er enghraifft, casglodd gardiau post o Orsafoedd Rheilffordd Cymru oherwydd credai fod cau gorsafoedd rheilffordd amrywiol yn y DU ar ddechrau'r 1960au yn gamgymeriad trychinebus.
Mae'r casgliad er cof am y diweddar Mrs Evelyn Skone, awdures ‘Tenby in Old Picture Postcards'.
Collections
- Hywel Davies - Cardiau Post
- Cerdiau Post
- Tom Mathias - Ffotograffau
- Bysiau
- Gwisgoedd
- Celfyddyd Gain