Gwasanaeth yr Amgueddfa
![](images/layout/spacer.gif)
Mae Gwasanaeth yr Amgueddfa yn rhoi ymdeimlad o le a hunaniaeth i drigolion y Sir, ynghyd â chynnig cipolwg diddorol ar hanes y Sir i ymwelwyr. Rydyn ni'n gofalu am dros 100,000 o arteffactau ac yn sicrhau eu bod ar gael mewn sawl ffordd, gan gynnwys arddangosfeydd, gweithgareddau a rhaglenni dysgu ledled y Sir. Cartref Gwasanaeth Amgueddfa'r Sir yw Maenordy Scolton, plas Fictoraidd mewn 60 erw o barcdir a choetir. Rydyn ni hefyd yn rheoli: · Bwthyn Penrhos, ger Llanycefn · Oriel Glaniad y Ffrancod yn Abergwaun Mae nifer o amgueddfeydd eraill yn y Sir yn cael cymorth ariannol gan Wasanaeth yr Amgueddfa, gan gynnwys: · Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod · Amgueddfa Forwrol Aberdaugleddau · Amgueddfa Hwlffordd Rydyn ni'n cefnogi, yn cynghori ac yn cynorthwyo grwpiau cymunedol lleol â'u prosiectau unigol eu hunain, ac yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau addysg. Cysylltwch â ni os: · oes gennych chi wrthrychau hanesyddol yr hoffech eu rhoi i gasgliad y Sir; · hoffech drefnu ymweliad ag un o'n safleoedd; · oes gennych chi brosiect cymunedol mewn golwg; · hoffech gael cyngor neu gymorth hanesyddol gydag ymchwil; · hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau addysg. ORIAU AGOR GWYBODAETH GYSWLLT Mark Thomas, Rheolwr Amgueddfeydd |
![](/template/culture/assets/img/portfolio/collections200.png)
Collections
- Hywel Davies - Cardiau Post
- Cerdiau Post
- Tom Mathias - Ffotograffau
- Bysiau
- Gwisgoedd
- Celfyddyd Gain
![](/template/culture/assets/img/portfolio/testimonials200.png)