Rhestr o Ffotograffau

 

 

Mae'r casgliad rhyfeddol hwn o ffotograffau yn cynrychioli gwaith dau ffotograffydd eithriadol o ddawnus o oesoedd gwahanol ac o gefndiroedd gwahanol iawn. Tynnwyd y ffotograffau gwreiddiol gan Tom Mathias, ffotograffydd a ddysgodd ei hun a oedd yn gweithio yn ardal Cilgerran yn Sir Benfro, Gorllewin Cymru, ar droad y ganrif. 

Gan ddefnyddio'r offer symlaf, cofnododd Tom Mathias fywyd bob dydd ei ardal enedigol, gyda chraffter a chariad sy'n treiddio drwy ei holl waith. Yn dilyn marwolaeth Tom Mathias ym 1940, collwyd ei negatifau am dros ddeng mlynedd ar hugain, pan ddarganfuwyd nhw gan yr ail unigolyn yn y stori, James Maxwell (Maxi) Davis.

Fel ffotograffydd, ni allai cefndir Maxi Davis fod wedi bod yn fwy gwahanol i un Mathias. Roedd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd proffesiynol fel Prif Ffotograffydd yng ngorsaf profi rocedi'r Sefydliad Awyrennau Brenhinol yn Aberporth gerllaw, lle roedd yn gyfarwydd â'r dechnoleg ffotograffiaeth fwyaf soffistigedig. Fel cyd-ffotograffydd, fodd bynnag, gwnaeth gydnabod a gwerthfawrogi ansawdd sylfaenol gwaith Mathias mewn dim o dro a, gan ddefnyddio'r holl sgiliau yr oedd wedi'u meithrin yn ei yrfa hir a llwyddiannus, aeth ati i geisio cadw ac adfer y ffotograffau. Diolch i'w ymdrechion ef mae ffotograffau Tom Mathias wedi'u harbed ar gyfer yr oesoedd i ddod. Bu farw Maxi Davis ym mis Rhagfyr 1990.

 

 

 

ID: 95 Adolygwyd: 14/4/2016

 





Collections

Tystebau Ymwelwyr Amgueddfeydd
  • "I have never had such an enjoyable time in a museum. Thank you so much to your staff."
  • "Diolch o galon am bob help a chyfeillgarwch."
  • "Very interesting visit; will be happy to visit again."
  • "Wow! Fantastic! The staff were very friendly and very, very helpful. Thank you very much."