Ffioedd a’r Gwasanaethau sydd ar gael

Archifdy Sir Benfro

Os oes gennych chi rif cyfeirnod yn barod, gallwch ddefnyddio'r Ffurflen Dalu Cais Ymchwil Archif i wneud taliad ar-lein. Bydd angen i chi gysylltu â ni record.office@pembrokeshire.gov.uk neu ffôn: 01437 775456 i gael rhif cyfeirnod a manylion y swm i'w dalu cyn gwneud taliad.

Y gwasanaethau sydd ar gael

 

  • Trawsgrifiadau Trwydded Yrru - £2.50 ar y safle, £3.50 o bell
  • Gwasanaeth Ymchwil unigolyn preifat - £22.90 yr awr
  • Gwasanaeth Ymchwil masnachol - £36.40 yr awr
  • Mynediad am ddim i Ancestry.com a Find My Past (ceisiwch archebu'r gwasanaeth hwn ymlaen llaw)

 

Gwneud cais llungopïo drwy'r post:

 

  • Pum copi cyntaf am £1 yr un, ac yna'r ffioedd arferol
  • Argraffiadau Microffilm/Microfiche - £1.70
  • Ni allwn gopïo eitemau penodol. Darllenwch ein polisi llungopïo am ragor o fanylion.

 

Gwasanaeth Ymchwil:

Mae'n bosibl y gall ein staff profiadol, gan ddefnyddio'r deunydd archifol a'r cyfleusterau sydd ar gael, eich helpu gyda'r canlynol (mewn perthynas â Sir Benfro).

 

  • Hanes teuluol
  • Hanes tŷ/adeilad
  • Hanes lleol
  • Trawsgrifio a chyfieithu

 

Y ffi yw £22.90 yr awr (£36.40 ar gyfer cwmnïau masnachol). Mae'r pris yn cynnwys postio ac unrhyw gopïau perthnasol o ddogfennau (lle y bo'n berthnasol). Rhaid talu ymlaen llaw. Gallwch dalu

 

  • ar-lein
  • dros y ffôn ar 01437 775456
  • neu drwy siec neu Archeb Bost (mewn £ Sterling, gan eu gwneud yn daladwy i "Cyngor Sir Benfro")

 

Fel arfer, awgrymwn i chi ddechrau â gwerth un awr o ymchwil. Os, tua diwedd eich amser, fod gennych fwy i'w ddarganfod, gall ein staff ymchwil eich helpu.

Hanes Tŷ

Os yw eich ymholiad ymchwil yn ymwneud â hanes tŷ, dylai eich cais ddod gyda manylion am leoliad yr eiddo, naill ai wedi ei farcio ar fap modern neu gyda chyfeirnod grid.

Cyflymder ein gwaith

Caiff llythyrau, ffacsiau ac e-byst eu cydnabod o fewn tri diwrnod gwaith. Lle y bo'n briodol, bydd y cwsmer yn cael ymateb ysgrifenedig o fewn 15 diwrnod gwaith neu o fewn 10 diwrnod gwaith os na anfonwyd cydnabyddiaeth yn gynt. Mae hyn yn unol â Safonau Siarter Cwsmeriaid Cyngor Sir Benfro. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i chwilio am y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn brydlon. Fodd bynnag, ni allwn sicrhau y bydd ein hymchwil bob amser yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Nid yw Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro yn gyfrifol am wallau neu hepgoriadau. Sicrhewch eich bod yn nodi cyfeiriad dychwelyd a chyfeiriad e-bost (lle y bo'n berthnasol).

ID: 58 Adolygwyd: 27/1/2022

 





Tystebau Ymwelwyr yr Archifdy
  • "I have never had such a fruitful time in an archive. Thank you so much to your very helpful staff."
  • "The staff here have been most helpful, patient and kind and made my difficult task a more pleasant experience. Congratulations to the Boss for having such a great team."
  • "Diolch o galon am bob help a chyfeillgarwch."
  • "Very interesting and helpful visit; will be more confident to visit more often."
  • "Staff were excellent with help: best help I have had from Archive offices. Thank you very much."
  • "A visit that solved a lot of questions, but raised several more! Staff were most helpful - a donation box may be useful in the future to [show] our appreciation."
  • "Wow! Fantastic! The staff were very friendly and very, very helpful. Thank you very much."