Dysgu gydag Archifau Sir Benfro
Ydych chi'n ceisio meddwl am rywle gwahanol i'ch grŵp neu gymdeithas ymweld ag ef? Mae gwasanaeth Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro yn falch o gynnig ymweliadau a theithiau grŵp. Mae ein gwaith diddorol yn cynnwys cadw hanes ysgrifenedig (a ffotograffig) Sir Benfro, a sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd lle y bo'n bosibl. Rydyn ni'n gweithredu fel cof y Sir i bob pwrpas. Mae ymweliadau grŵp â'r swyddfa yn cymryd tua dwy awr. Maent yn hamddenol ac anffurfiol iawn ac yn cynnig digon o gyfle i ofyn cwestiynau. Mae'r fformat arferol yn cynnwys:
Rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol di-ri gan grwpiau sydd wedi ymweld â ni. Mae taith o'r Archifau yn brofiad grŵp diddorol ond, os oes gan unrhyw un yn y grŵp ddiddordeb yn hanes ei deulu, ei gartref neu ei gymuned, gall fod yn lle delfrydol i ddechrau ymchwilio. Gallai fod cyfoeth o wybodaeth berthnasol ar gael yma. Y gost ar gyfer ymweliadau grŵp yw £22.90 fesul grŵp. Os hoffech drefnu ymweliad grŵp e-bostiwch ni yn record.office@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01437 775456. |
![](/template/culture/assets/img/portfolio/testimonials200.png)