Ymweliadau Personol ac Ymweliadau Grŵp
Ymweliad Personol â'r Archifau
Mae angen gwneud apwyntiad nawr. Bydd angen i chi ddangos Tocyn Darllenwyr Archifau Cymru os ydych chi am weld dogfennau gwreiddiol yn yr Archifau.
Gallwch archebu cyfrifiadur/ microffilm/darllennwr fiche ymlaen llaw i wneud pethau'n haws i chi.
Mae canllawiau i ddefnyddwyr a rhestrau pynciau, sy'n rhoi cyflwyniad i bynciau gwahanol, ar gael am ddim yn y swyddfa.
Y gwasanaethau sydd ar gael
- Trawsgrifiadau Trwydded Yrru - £2.50 ar y safle, £3.50 o bell
- Gwasanaeth Ymchwil unigolyn preifat - £22.90 yr awr
- Gwasanaeth Ymchwil masnachol - £36.40 yr awr
- Mynediad am ddim i Ancestry.com a Find My Past (ceisiwch archebu'r gwasanaeth hwn ymlaen llaw)
Mae gwasanaeth llungopïo ar gael yn y swyddfa:
- A4 Du a Gwyn - 10c
- A4 Lliw - 30c
- A3 Du a Gwyn - 20c
- A3 Lliw - 60c
Argraffu o gyfrifiadur:
- 15c
Argraffu Microffilm/Microfiche:
- 60c
Ymweliadau Grŵp
Rydyn ni'n cynnig ymweliadau grŵp i'r Swyddfa, fel arfer yn ystod oriau swyddfa ar ddydd Mawrth, pan fo'r ystafell ymchwil ar gael ar gyfer ymweliadau o'r fath - mae'r rhain ar gael am £22.90 y grŵp. Maent yn cynnwys cyflwyniad i'r Archifau a thaith y tu ôl i'r llenni a chyfle i gael golwg ar ddeunydd archifol amrywiol o ddiddordeb. Gallwch ddysgu mwy yn yr adran Dysgu gydag Archifau Sir Benfro ar y wefan hon.
![](/template/culture/assets/img/portfolio/testimonials200.png)