Gwasanaethau Diwylliannol
  • Archifau ac
    Astudiaethau Lleol
  • Gwasanaethau
    Llyfrgell
  • Amgueddfeydd a
    Chasgliadau
  • Tapestri
    Abergwaun
  • Maenor
    Scolton

Casgliadau Hywel Davies o Gerdiau Post

Ynglŷn â Maenordy Scolton

Plasty Fictoraidd traddodiadol ger Hwlffwrdd wedi'i amgylchynu â 60 erw o barcdir a choetir. Mae llwybrau natur yn ymlwybro drwy'r coedwigoedd heddychlon a cheir digonedd o fannau agored hefyd, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn, pobl â nam ar y symudedd a phlant bach mewn bygis. Mae digon i ddidanu plant bach hŷn hefyd, gan gynnwys parc chwarae antur, a gall mam a dad fwynhau eistedd yn yr haul yn yr ardal bicnic!

Mae waliau dringo a sgramblo i blant hefyd, drysfa bren, a nodweddion chwarae eraill wedi'u dotio o gwmpas y parc. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys byrddau picnic, toiledau ac ystafell de yn gwerthu cacennau cartref, byrbrydau a chinio ysgafn. Mae croeso i gŵn yn y parc ar yr amod eu bod ar dennyn.

PCC Logo
© 2025 Cyngor Sir Penfro. Cedwir yr holl hawlfreintiau.