Hanes y Tapestri

Dewch i weld beth ddigwyddodd y tro diwethaf yr ymosodwyd ar dir mawr Prydain ym mis Chwefror 1797. Mae'r hanes ar y tapestri gwobrwyol 30 metr gogoneddus a gynhyrchwyd i nodi deucanmlwyddiant y digwyddiad yn 1997. Caiff y diwrnod hwnnw ei ail-greu trwy gymorth byrddau stori ac arteffactau ac mae'r ystafell glyweled yn dangos sut y gwnaed y tapestri.
Hanes y Glaniad
Wedi dechrau'r rhyfel rhwng Prydain a Ffrainc ym 1793, cynlluniodd y Cadfridog Hoche oresgyniad i ryddhau Iwerddon. Er mwyn eu hatal rhag anfon milwyr wrth gefn i Iwerddon, y cynllun oedd y byddai dau gyrch bach yn glanio ar y tir mawr. Byddai un o'r rhain yn ymosod ar Fryste neu pe byddai hynny'n methu, byddai'n glanio ym Mae Ceredigion a martsio i Lerpwl i ymuno â'r cyrch arall.
Ym mis Rhagfyr 1796, pan gyrhaeddodd cyrch Hoche ym Mae Bantry yn Iwerddon, fe'i drylliwyd gan stormydd ac aeth yn ôl yn whip reit i Frest. Er iddynt roi'r gorau i un o'r cyrchoedd, hwyliodd y cyrch ar Brydain o Frest Chwefror y 16eg 1797. Yr arweinydd oedd William Tate, Americanwr o Dde Carolina, a oedd wedi bod yn ymdrybaeddu mewn cynlluniau Ffrengig ac wedi symud i Baris. Roedd y rhan fwyaf o'r milwyr o Ffrainc wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd milwrol Prydeinig wedi eu lliwio'n frown tywyll. Felly, cafodd y 1200 o ddynion yn La Seconde Legion des Francs yr enw "Y Lleng Ddu". Roedd y rhain yn gymysgedd o weriniaethwyr, brenhinwyr wedi'u carcharu a grenadwyr ac wedi eu harfogi'n dda iawn. Roedd rhai o'r swyddogion yn Wyddelod. Fe'u cludwyd mewn pedair llong newydd o dan y Comodor Castagnier.
Wedi methu â chyrraedd Bryste, aeth Tate i gyfeiriad Bae Ceredigion. Gwelwyd y sgwadron, dan liwiau Prydeinig, yn dod heibio i Benmaendewi yn Sir Benfro, Chwefror y 22ain ac yna angorodd mewn tywydd perffaith ar bwys Carreg Wastad, trwyn creigiog rhyw dair milltir i'r gorllewin o Abergwaun. Yn ystod y nos daethpwyd â'r milwyr a'u harfau i'r lan. Felly, roedd y glaniad olaf gan filwyr y gelyn ar dir mawr Prydain wedi ei gyflawni'n llwyddiannus. Rhuthrodd cwmni o grenadwyr filltir i mewn i'r tir a chipio fferm Trehowel, a ddaeth yn bencadlys i Tate.
Pan ddaeth un o'r llongau i mewn i Fae Abergwaun i wneud rhagarchwiliad, taniwyd ergyd o ganon gwag o Gaer Abergwaun. Ymadawodd y llong ar frys a bu'r ergyd yn fodd i rybuddio Gwirfoddolwyr Abergwaun. Roedd y Gaer wedi ei harfogi mor wael y byddai cipio'r porthladd bach wedi bod yn rhwydd iawn.
Roedd William Knox, a oedd wedi bod yn ddiweddar yn Is-ysgrifennydd y Trefedigaethau Americanaidd, wedi ymgartrefu yn Sir Benfro ac roedd ei blas y Llanstian bedair milltir yn unig o Abergwaun. Pan ddechreuodd y rhyfel roedd wedi codi Gwirfoddolwyr Abergwaun yn gyflym a phenodwyd ei fab, Thomas, yn Is-gyrnol. Roedd mewn cyfarfod cymdeithasol ym Mhlas Tregwynt pan gafodd y newyddion eu bod yn tybio fod y gelyn wedi glanio. Yn gyntaf, ni roddodd fawr o goel arno, gan nad oedd wedi gweld dim gweithgarwch gelyniaethus ar y llongau pell ond, pan ddechreuodd weld ei bod yn sefyllfa ddifrifol, rhoddodd orchymyn i'w Wirfoddolwyr fynd i'w bencadlys yn y Gaer.
Roedd yr Arglwydd Cawdor, a oedd yn gapten ar Farchfilwyr Iwmoniaid Penfro, ddeg milltir ar hugain o'r fan yn Llys Ystagbwll, ym mhen draw deheuol y sir. Pan glywodd y newyddion, dechreuodd symud ei filwyr ar unwaith a chroesodd ar Fferi Penfro gyda Gwirfoddolwyr Penfro a Milisia Sir Aberteifi. Roedd y rhan fwyaf o'r clod am gasglu llu o oddeutu pedwar cant o filwyr a morwyr yn Hwlffordd yn ddyledus i egni'r Is-gyrnol Colby, a garlamodd wedi hynny i Abergwaun i weld beth oedd sefyllfa Knox. Yn fodlon, dychwelodd i Hwlffordd i oruchwylio'r lluoedd yn cyrraedd. Daethpwyd â phres y llynges a chriwiau dwy o longau bach y refeniw gyda'u canonau i mewn o Aberdaugleddau. Hanner dydd, Chwefror y 23ain, aethant o Hwlffordd, dan arweiniad Cawdor, i atgyfnerthu Knox, a oedd yn wynebu'r Ffrancod yn Abergwaun.
Newyddion am ildio diamod
Bore'r 23ain, sylweddolodd Knox bod niferoedd y gelyn yn llawer mwy a phenderfynodd symud tuag at ei filwyr wrth gefn. Nawr roedd Abergwaun ar drugaredd Tate. Er bod llawer o'r trigolion yn ffoi mewn dychryn o'r ardal, roedd cannoedd o sifiliaid yn heidio i mewn i'r ardal wedi'u harfogi ag amrywiaeth o arfau bras. Aeth Knox a'i ddynion i gwrdd â'r milwyr ychwanegol yn Nhrefgarn ac arweiniodd Cawdor y lluoedd yn ôl i gyfeiriad Abergwaun.
Wrth agosáu, penderfynodd Cawdor ymosod ond wedi colli ei ffordd yn y tywyllwch, penderfynodd ymgilio i Abergwaun, gan osgoi o drwch blewyn ymosodiad cudd a oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer. Roedd y swyddogion yn sefyll yn Nhafarn y Dderwen.
Fodd bynnag, doedd hi ddim mor dda ar Tate erbyn hyn. Roedd llawer o'i griwiau chwilota wedi gorfod ysbeilio ffermydd lleol ac Eglwys Llanwnda. Roedd y diffyg disgyblaeth yn mynd yn rhemp. Daeth yn amlwg i Tate bod y werin Gymreig leol yn elyniaethus i'w lu o "ryddhawyr" ac roedd chwech o wladwyr a milwyr wedi eu lladd. Roedd llawer o'r swyddogion Gwyddelig yn ei gynghori i ildio. Roedd ymadawiad sgwadron Castagnier fel y bwriadwyd, am Iwerddon, wedi syfrdanu a digalonni'r dynion a oedd wedi gweld eu ffordd i ryddid yn diflannu dros y gorwel. Mae tystiolaeth gref hefyd bod y Ffrancod wedi eu twyllo gan nifer fawr o wragedd lleol a ddaeth i'r golwg yn y gymdogaeth yn eu gwisg draddodiadol, sef y siôl goch a'r het ddu, a oedd o bell yn debyg iawn i wisgoedd troedfilwyr. Roedd trigolion o ardal eang yn heidio i gyfeiriad Abergwaun i ymosod ar y gelyn. Cipiwyd dwsin o filwyr Ffrengig gwangalon gan wraig leol, Jemima Nicholas, pladures o grydes gref, a'u cloi yn Eglwys Fair. Y noson honno daeth dau gynrychiolydd o blith y Ffrancod i Dafarn y Dderwen i drafod ildiad amodol. Ond atebodd Cawdor, a'u cafflo'n wych, na fyddai yntau a'u niferoedd mwy, yn derbyn dim llai nag ildiad diamod, neu byddai ymosodiad ar y Ffrancod.
Y bore wedyn, sef Chwefror y 24ain, roedd y llu Prydeinig yn eu cadresi, a channoedd o sifiliaid wrth gefn, yn disgwyl ymateb Tate. Fodd bynnag, derbyniodd Tate yr amodau ac yn y diwedd, gyda'r drymiau yn taro, martsiodd y Ffrancod i lawr i draeth Wdig a phentyrru eu harfau. Cawsant eu martsio drwy Abergwaun ar eu ffordd i'r ddalfa dros dro yn Hwlffordd.
Erbyn hyn, roedd Cawdor wedi marchogaeth bant i fferm Trehowel ac wedi derbyn ildiad Tate a'i gleddyf. Roedd y glaniad wedi dod i ben ond roedd y cwbl wedi bod yn ysgytwad milain i'r llywodraeth a bu'r adleisiau'r glaniad yn diasbedain am gyfnod hir.
Ysgrifennwyd gan y diweddar Bill Fowler, Cadeirydd Pwyllgor y Daucanmlwyddiant.
