Ymweliadau Addysgol a Phrofiad Gwaith
Profiad Gwaith a Bagloriaeth Cymru yn Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro
Rydyn ni'n cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr, gan gynnwys ar gyfer Bagloriaeth Cymru. Mae ein gwasanaeth yn cadw ac yn hyrwyddo hanes ysgrifenedig Sir Benfro ac yn ei roi ar gael i'r cyhoedd lle bynnag y bo'n bosibl.
Gall lleoliadau gwaith gyda ni gynnwys unrhyw rai o'r canlynol:
•Dysgu am waith pwysig a rôl y Gwasanaeth Archifau ac Astudiaethau Lleol
•Hanes teuluol a lleol
•Rheoli adnoddau gwybodaeth
•Datblygu sgiliau ymchwil drwy astudio deunydd archifol gwreiddiol
•Helpu i ddarparu ein gwasanaeth cyhoeddus rheng-flaen
•Helpu i ddigideiddio deunydd archifol
•Dysgu am rôl cadwraeth archifol ac am y grefft ei hun
Mae nifer gyfyngedig o leoedd profiad gwaith ar gael bob blwyddyn. I sicrhau eich bod yn cael y mwyaf allan o'ch amser yma gyda ni, byddai'r canlynol o fudd:
•Gwir gariad at hanes neu reoli gwybodaeth
•Dyhead i astudio hanes neu ddisgyblaeth gysylltiedig ar lefel uwch
•Yn mwynhau bod yn rhan o dîm a helpu pobl eraill
•Agwedd gyfrifol
Mae croeso i fyfyrwyr gysylltu â ni'n uniongyrchol i drefnu cyfarfod anffurfiol i drafod lleoliad posibl. E-bostiwch ni yn record.office@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01437 775456.
