Ymweliadau Personol ac Ymweliadau Grŵp
Ymweliad Personol â'r Archifau
Mae angen gwneud apwyntiad nawr. Mae'r gwasanaeth hwn yn defnyddio system cerdyn darllenydd ARA. I wneud cais am gerdyn darllenydd, ewch i wefan ARA: https://archivescard.com/ARA #mce_temp_url# Yr holl wybodaeth i gwblhau'r cais i'w gweld yno.
Mae canllawiau i ddefnyddwyr a rhestrau pynciau, sy'n rhoi cyflwyniad i bynciau gwahanol, ar gael am ddim yn y swyddfa.
Y gwasanaethau sydd ar gael
- Trawsgrifiadau Trwydded Yrru - £2.50 ar y safle, £3.50 o bell
- Gwasanaeth Ymchwil unigolyn preifat - £22.90 yr awr
- Gwasanaeth Ymchwil masnachol - £36.40 yr awr
- Mynediad am ddim i Ancestry.com a Find My Past (ceisiwch archebu'r gwasanaeth hwn ymlaen llaw)
Mae gwasanaeth llungopïo ar gael yn y swyddfa:
- A4 Du a Gwyn - 10c
- A4 Lliw - 30c
- A3 Du a Gwyn - 20c
- A3 Lliw - 60c
Argraffu o gyfrifiadur:
- 15c
Argraffu Microffilm/Microfiche:
- 60c
Ymweliadau Grŵp
Rydyn ni'n cynnig ymweliadau grŵp i'r Swyddfa, fel arfer yn ystod oriau swyddfa ar ddydd Mawrth, pan fo'r ystafell ymchwil ar gael ar gyfer ymweliadau o'r fath - mae'r rhain ar gael am £22.90 y grŵp. Maent yn cynnwys cyflwyniad i'r Archifau a thaith y tu ôl i'r llenni a chyfle i gael golwg ar ddeunydd archifol amrywiol o ddiddordeb. Gallwch ddysgu mwy yn yr adran Dysgu gydag Archifau Sir Benfro ar y wefan hon.
