Cerrig Sanctaidd

Cerrig Sanctaidd

Cafodd Sir Benfro ei disgrifio fel gwlad llawn dirgelwch a swyn yn y Mabinogion mil o flynyddoedd yn ôl. Mae mythau a chwedlau hynafol yn dal i gyniwair y Sir heddiw ac mae modd dod o hyd i lawer o'r straeon hyn yn y cerrig.

Mae digonedd o gerrig cysegredig yn Sir Benfro. Maen nhw'n cynnwys y cylch meini hynafol yng Ngors Fawr, ger Mynachlog-ddu, a'r siambrau claddu fel cromlech Pentre Ifan. Hwyrach mai'r cerrig enwocaf yw cerrig gleision Côr y Cewri, a gymerwyd o Garn Menyn ym Mynyddoedd y Preseli.

Mae cysylltiad mam Dewi Sant, y Santes Non, fel nith y Brenin Arthur yn rhan o lên gwerin Sir Benfro hefyd. Yn ôl y chwedl, mae bedd Arthur ym Medd Arthur, yn uchel ar grib y Preseli. Yn ôl pob sôn, cerrig brig creigiog y Cerrig Marchogion hwn yw'r fan lle lladdodd y Twrch Trwyth mytholegol o Iwerddon sawl un o farchogion Arthur.

 

ID: 116 Adolygwyd: 19/5/2017

 





Tystebau Ymwelwyr
  • "I have never had such a fruitful time in an archive. Thank you so much to your very helpful staff."
  • "The staff here have been most helpful, patient and kind and made my difficult task a more pleasant experience. Congratulations to the Boss for having such a great team."
  • "Diolch o galon am bob help a chyfeillgarwch."
  • "Very interesting and helpful visit; will be more confident to visit more often."
  • "Staff were excellent with help: best help I have had from Archive offices. Thank you very much."
  • "A visit that solved a lot of questions, but raised several more! Staff were most helpful - a donation box may be useful in the future to [show] our appreciation."
  • "Wow! Fantastic! The staff were very friendly and very, very helpful. Thank you very much."