Gweithio ar y Tapestri

 

Un noson dywyll a gwyntog ym mis Tachwedd 1993 roedd neuadd Canolfan Addysg Gymunedol Abergwaun dan ei sang.  Roedd mwy nag 80 o bobl wedi dod i glywed am Brosiect Tapestri Glaniad y Ffrancod.  Gwnaethom ni ddisgrifio'r modd y byddai'r gwaith yn cael ei wneud a'r ymrwymiad y byddai ei angen.  Cafwyd ymateb ysgubol.  Erbyn diwedd y noson roedd mwy na chwe deg o frodwyr a chynorthwywyr wedi eu recriwtio, yn amrywio o ran oedran o ddeg ar hugain i ddwy a phedwar ugain.  Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf aeth y gair ar led ac erbyn mis Chwefror 1994 roedd deg a thrigain o frodwyr yn awyddus i gychwyn.  

Penderfynwyd y byddai'r pwythwyr yn dechrau gweithio ar ran gyntaf y Tapestri tra'r oedd y ddwy ran o dair a oedd yn dal yn weddill o'r cartŵn yn dal i gael eu creu.  Roedd rhwng 60 a 70 o wirfoddolwyr pwytho yn barod i ddechrau gweithio.  Ni fyddai wedi bod yn ymarferol pe byddent wedi dechrau'r brodio ar ddarn di-dor o frethyn.  Yn lle hynny, byddai'n cael ei wneud ar baneli o faint hylaw a fyddai yn y pen draw wedi eu cyfuno.  Penderfynodd Elizabeth, y dylunydd, ar y tri deg a saith o ymraniadau yn y cartŵn yr oedd eu hyd yn amrywio o un deg naw modfedd (48cm) i bedwar deg a chwech o fodfeddi (117cm).  Byddai gan bob panel ei bethau diddorol a'i bethau anodd ei hun ac wedi eu cyfuno ni fyddai gorgyffyrddiad y brodwaith yn rhy gymhleth.  Yna aeth y brodwyr ati i drefnu eu hunain yn grwpiau bychain a fyddai'n gweithio gyda'i gilydd ar y paneli yn eu cartrefi eu hunain. 

Cafwyd pren addas yn rhodd gan werthwr nwyddau adeiladu lleol a gweithiodd gwŷr dwy o'r brodwyr y fframiau brodwaith.  Roedd 40 metr o frethyn cotwm heb ei gannu wedi ei brynu mewn marchnad yng ngwlad Groeg a'i gludo adref mewn ces dillad gwyliau.  Dodwyd  mwslin yn gefn i hwn a'i estyn yn dyn ar y fframiau.  

Nawr byddai modd trosglwyddo i'r brethyn yr oliniadau yr oedd Elizabeth wedi eu gwneud o'i llun paent.  Roedd hon yn broses hanfodol bwysig er mwyn cadw ansawdd y darlun gwreiddiol ac roeddem yn ffodus bod gyda ni gryn nifer o wirfoddolwyr a oedd yn barod i wneud rhan helaeth o'r gwaith olinio manwl a gofalus hwn, yn gyfraniad aeth llawer o'n brodwyr hefyd i'r afael â'r gwaith hwn.  Roedd papur carbon yn fodd i drosglwyddo'r gwaith olinio ac wedyn arluniwyd tros hyn gyda phin lliw gwrth-ddŵr.  Erbyn hyn, roedd y llun gwreiddiol wedi bod trwy bump o brosesau - arlunio, paentio, olinio, trosglwyddo gyda phapur carbon ac incio.  Serch hynny, roedd nodweddion darlun Elizabeth yn gyfan.

Llanc a Merch yn Ffoi i'r Eglwys

Yn y cyfamser roedd gwaith enfawr arall wedi ei wneud gan Elizabeth gyda chymorth un o gydlynwyr y brodio, Rozanne Hawksley. Roedd rhaid cydweddu'r edafedd o wlân ar gyfer y gwaith brodio gyda phob un o fanylion y llun paent, ac ysgrifennu siartiau lliw a chyfarwyddiadau ar gyfer pob panel.  Parhaodd y gwaith hwn fisoedd lawer hyd nes bu modd archebu'r gwlân i'w swmp-brynu.

Cyrhaeddodd y gwlanau yn genglau enfawr a oedd i'w gweld yn llenwi un o'r ystafelloedd Addysg Gymunedol lle'r oeddent wedi eu taenu.  Yn gyfan gwbl, defnyddiwyd  178 o liwiau yn y brodwaith ac roedd rhaid gwahanu'r rhain oll yn genglau llai, eu rhifo a'u cadw yn y fath fodd eu bod yn hawdd mynd atynt.  Cafwyd cymorth gyda llawer o wirfoddolwyr gyda'r agwedd hon ar y trefnu ond Margaret Bennett a wnaeth y rhan fwyaf. 

Erbyn mis Rhagfyr 1994 roedd deuddeg o baneli yn barod gyda ni, pob un â'i siartiau cyfarwyddyd a'r gwlân ar ei gyfer ac roedd y dydd wedi dod pan fyddem ni'n gallu dodi'r pwythau cyntaf i mewn.  Dechreuodd ein grwpiau weithio o ddifrif.  

A dyna ni, ar fin dehongli llun paent dyfrlliw mewn brodwaith, a fyddai wedyn yn dod yn gallu byw yn annibynnol, ac roedd RHAID iddo weithio.  Roedd yn gyfuniad cynnil o ffyddlondeb i'r paentio ac i natur y brodwaith.  Mae cyflawni linell, ffurf a chymysgu lliwiau trwy baentio neu frodwaith yn brosesau anodd iawn ac roedd yn her o ddifrif i'r pwythwyr.  Roedd rhaid gweld bod manylion bach yn hollol gywir yn erbyn y paentio gwreiddiol ac er mwyn gwneud hyn, roedd Elizabeth ar gael bron bob dydd.  Os oedd y manylion yn anghywir byddent yn eu datod yn amyneddgar a'u gwneud eto. 

Cynhelid cyfarfodydd o bryd i'w gilydd er mwyn i'r brodwyr gymharu nodiadau a rhannu syniadau ac roedd pawb ohonom yn gallu gweld y cynnydd.  Gyda'r paneli cyntaf wedi eu cwblhau, dechreuwyd y rhai newydd hyd nes bod y Tapestri i gyd megis ar y gweill.  Ychwanegwyd y llythrennau yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr ymylon yn olaf a pharatowyd y paneli ar gyfer eu cyfuno. 

Gwelwyd mai cyfuno'r paneli a fu ar wahân oedd un o rannau mwyaf trafferthus y prosiect a bod angen rhagor o amser na'r disgwyl ar gyfer hyn.  Roedd rhaid i rannau cyfagos o'r dyluniad fod wedi eu paru'n berffaith gan drosbwytho'r uniadau yn fân iawn gyda llaw.   Yn gyntaf roeddem wedi gobeithio gwneud y gwaith gwnïo hwn yn un grŵp ond daeth hyn yn anymarferol a gwirfoddolodd un o'n brodwyr, Joan Thomas, i uno'r paneli i gyd.   

O'r diwedd, yn yr hydref 1996 daeth y Tapestri at ei gilydd yn un darn.  Roedd "gorgyffwrdd" y brodwaith wedi ei gwblhau ac ychwanegwyd un rhes ar ddeg o bwythau conyn - cyfanswm o gant a mil o bwythau (330 metr) ar hyd yr ymylon er mwyn fframio'r gwaith.  Ym mis Ionawr 1997 pwythwyd gyda llaw leinin o gotwm (rhodd gan gwmni lleol) i'r Tapestri. Dodwyd stribedi di-dor o Velcro ar y leinin ar yr ymylon uchaf ac isaf a phob hyn a hyn ar ei hyd, i fod yn barod i'w arddangos.  

Gosodwyd y Tapestri yn ei gas arddangos wedi ei adeiladu i'r diben ym mis Chwefror 1997.  Cafodd ei ddadorchuddio a'i arddangos i'r cyhoedd Chwefror y 22ain1997 - daucanmlwyddiant y dyddiad y glaniodd lluoedd Ffrainc yn y Garreg Wastad.

Audrey Walker (Cydgysylltydd y Prosiect)

Fideo Gweithio ar y Tapestri *

(45 minutes long - may need to be edited down into smaller section) - may require permissions from tapestry group / copyright holders etc

 

Cydnabyddiaeth (Ymgynghorwyr a Phwythwyr)

Dyluniwyd y Tapestri gan Elizabeth Cramp RWS - artist proffesiynol. Roedd tair o artistiaid proffesiynol eraill - Rozanne Hawksley, Eirian Short ac Audrey Walker - yn gynghorwyr ar y brodwaith ei hun. Bu pob un o'r tair yn ddarlithwyr yn Adran Decstilau Coleg Goldsmiths, Prifysgol Llundain cyn dod i fyw i Sir Benfro.

 

Cynorthwyodd saith deg saith o bobl wneud y tapestri:
Joyce Ayres, Ann Barker, Ann Barnett, Pauline Barnett, Pam Balascheff, Margaret Bennett, Grizel Care, Cherry Campbell, Peggy Cateaux, Judy Chapman, Pauline Chesters, Frances Chivers, Philip Chivers, Mary Clark, Christine Conlon, Jenny Curry, Tricia Curtis, Beryl Davies, Pamela J. Davies, Marie Davies, June Dimmick, Jill Edge, Hetty Edwards, Hazel Evans, Olive Evans, Kathleen Foot, Betty George, Betty Griffiths, Noreen Haswell, Rozanne Hawksley, Roger Hill, Greta Homewood, Mona Howell, Margaret Hughes, Mona John, Eileen Johns, Vena Johns, Peggy Jones, Wendy Kinver, Elsie Lanham, Nora Lanham, Gill Lewins, Margaret Lewis, Lizzie Macrae, Liz Maxwell-Jones, Valerie Mcnab, Gwen Michael, Elizabeth Morris, Audrey Mowatt, Avril Norman, Alex Owen, Esther Owen, Betty Pearce, Heledd Phillips, Lesley Phillps, Rita Phillips, Pat Price, Jean Pugh, Ann Reive, Nest Roberts, Anne Robinson, Mary Robinson, Denys Short, Eirian Short, Rowena Sturdgess, Beth Symons, Ann Sympson, Elisabeth Mortimer Thomas, Joan Thomas, Olwen Thomas, Audrey Vaughan, Audrey Walker, Kitty Ward, Kay Williams, Marian Wixey, Hatty Woakes, Mary Yule.

 

 

ID: 65 Adolygwyd: 9/12/2015

 





Tystebau Ymwelwyr y Tapestri
  • "The tapestry is a work of art."
  • "A wonderful story brilliantly shown."
  • "Gwaith o ddawn arbennig."