Dylunio'r Tapestri

 

Yn gynnar ym 1993, gofynnodd Myles Pepper, Cadeirydd Cymdeithas Gelfyddydol Abergwaun ar y pryd, a'r pwyllgor, i mi a fyddwn i'n gallu dylunio brodwaith 100 troedfedd o hyd gyda dyfnder o 20 modfedd (3048cm x 50.8cm), rhywbeth tebyg i Dapestri Bayeux, i ddangos Glaniad y Ffrancod yng Ngorllewin Cymru ym 1797. Roedd hyn i fod yn brosiect cymunedol i ddathlu daucanmlwyddiant y digwyddiad hwnnw ym 1997.  Fy ateb i oedd "Iawn, fe allai hynny fod yn hwyl" ond doeddwn i'n gwybod dim am y glaniad heblaw bod crydes o'r enw Jemima wedi cipio dwsin o filwyr Ffrainc.  Dechreuodd fy ymchwil yn llyfrgell Abergwaun heb fy sbectol, yn chwilio drwy'r niwl am lyfr, unrhyw lyfr, am y glaniad.  Digwyddodd fy llaw ddisgyn ar hen lyfr brown, y cadarnhaodd Miss Evans y Llyfrgellydd, gyda sbectol, ei fod am y glaniad.  Wedi mynd ag ef adref, fe welais ei fod yn llawn o ddarluniau ysgrifenedig a oedd yn addas i mi weithio oddi arnyn nhw.  Fodd bynnag, fe ges i fenthyg llyfr gydag Audrey Walker, sef"The French Invasion at Fishguard" gan Bill Fowler, a adawodd yn y man i mi fenthyg "The French Invasion" gan E. H Stewart-Jones a bu'r ddau lyfr yma yn fodd i mi fynd i'r afael nid yn unig â'r digwyddiad ond hefyd gyda'r hanes a oedd wedi arwain ato.  Fe ddefnyddiais i hefyd lyfrau ar wisgoedd lleol a gwisgoedd milwrol y cyfnod hwnnw. 

Roedd pethau syml yn ddryswch i mi. Da: oedd y Gwartheg Duon Cymreig ar berci Gorllewin Cymru ym 1797?  Roedd dyn deg a phedwar ugain oed yn cofio ei dad-cu yn sôn mai'r da brithion oedd y rhai mwyaf cyffredin yn ei amser ef, ac roedd hynny'n ddigon pell yn ôl i mi ei ddefnyddio yn y cartŵn.   O ba ddefnydd oedd toeau'r ffermdai wedi eu gwneud, ac a oedd Abergwaun wedi newid llawer ers 1797?   Fe ges i fenthyg hen luniau gyda Ken Williams, Cadeirydd Cymdeithas Hanesyddol Abergwaun, a gwybodaeth berthnasol hefyd a fu'n gymorth i mi weld yn ôl drwy'r blynyddoedd.  

Roedd y tresi ar bennau ceffylau'r milwyr yn rhy gymhleth i'w pwytho yn eglur, felly, gyda rhyddid yr arlunydd, fe wnes i ddarlun mwy syml ohonyn nhw.  A oedd cytau'r ceffylau yn hir neu wedi eu tocio?  Roedd llongau yn broblem arall.  Fe ges i fenthyg cynlluniau gyda Bill o'r llongau hynny a oedd wedi eu defnyddio yn y glaniad, felly roeddwn i'n gwybod sawl mast oedd gyda phob llong.  Ond pa olwg oedd ar rannau uchaf y llongau?  Yn Llundain un diwrnod, fe gofiais i oriel yn Albemarle Street a oedd yn arbenigo mewn lluniau morol o'r cyfnod hwnnw.  Yno roedd lluniau i'w gweld o'r math o long yr oeddwn i'n chwilio amdani. 

Daeth yr amser i ysgrifennu nodiadau er mwyn penderfynu pa rannau o'r glaniad i'w portreadu a sawl golygfa y byddai modd eu cynnwys yn rhwydd mewn 100 troedfedd.  Fe ysgrifennais ddeugain golygfa, ond fe welais i fod y rhai gyda thyrfaoedd yn gofyn rhagor o hyd na'r lleill.  Dyna ddatrys y broblem trwy gwtogi'r nifer i ddau ar bymtheg ar hugain a hynny heb golli dim o'r hanes.  Wedi gwneud hynny, fe ddechreuais i wneud brasluniau ar y safle o nodweddion lleol a oedd â chysylltiad â'r glaniad fel y Garreg Wastad, Eglwys Llanwnda a'r ffermydd.  Wnes i ‘joio hynny mas draw', yn yr haul gan fwyaf, blodau ar yr eithin a gwynt mêl.  Hyd yma, roeddwn i wedi bod wrthi ddau fis yn ymchwilio.
 
Gwŷr Meirch yn Sgwâr Abergwaun

 Gyda fy nodiadau ysgrifenedig yn ganllaw, fe wnes i'r dyluniad ar gartŵn maint chwarter gyda phensil meddal 4b.  Roedd pob un o'r golygfeydd wedi ei dylunio i gadw llif linellol barhaus a chyson o'r naill i'r llall er mwyn bod yn fodd i ddelweddau a oedd yn gwahaniaethu ymgysylltu heb fod yn ysgytwad i'r llygad.  Bu Bill Fowler yn ddigon caredig i fwrw golwg ar fy ngwaith dylunio rhag ofn bod gwallau hanesyddol a rhoddodd gyngor i mi ynglŷn â threfn y digwyddiadau. Yn ystod y glaniad, digwyddodd nifer o bethau'r un pryd mewn sawl ardal wahanol ac roedd hyn yn gryn anhawster.  Awgrymodd fy mod wedi defnyddio gormod o chwedlau, ond fy marn i oedd mai ychydig fyddai'n weddill heb y chwedlau hyn, felly, gan bwyll, fe anghofiais y rhan honno o'i gyngor.   Fe dreuliais bythefnos yn cwblhau'r dyluniad maint chwarter ond hyn, yn y pen draw, oedd y rhan gyflymaf o'r prosiect. 

Yn gweithio gyda thri rholyn o bapur, y cam nesaf oedd newid y dyluniad maint chwarter i'r cartŵn maint llawn.  Er mwyn bod yn fanwl gywir wnes i fesur pob llinell.  Gwaith araf oedd hyn ond cyflymach nag arlunio gyda llaw rydd a gwneud newidiadau.  

Oherwydd bod y pwythwyr yn awyddus i ddechrau, roedd rhaid i mi baentio ac olinio deuddeg golygfa'r rhan gyntaf cyn cwblhau'r cartŵn i gyd.  Roedd hyn yn fodd i'r merched, trwy weithio gyda phapur carbon, drosglwyddo'r darlun o'r gwaith dylunio yr oeddwn wedi ei wneud, i ddeuddeg ffrâm o frethyn wedi ei estyn yn dyn.  Yn ddiweddarach fe gefais i gymorth gydag olinio ail a thrydedd rhan y cartŵn.  

O ran gweithio lliw ar y dyluniad, fy nod oedd awgrymu gwedd aeafol y glannau yn ystod y dydd a hynny'n llifo i mewn i'r nos.  Mewn un olygfa gyfan fe weithiais i gyda lliwiau oeraidd i awgrymu prynhawn hwyr yn y gaeaf.  Yr un pryd, roedd arnaf eisiau i'r lliw fod yn llawn dychymyg a chyffro.  Fe barodd hyn i ŵr un o'r gwragedd oedd yn pwytho fwrw amheuaeth ar y ceffylau piws a holodd un arall ynglŷn â chnawd gwyrdd rhyw filwr Ffrengig ofnus.  

O wanwyn 1994 ymlaen fe ddechreuais i gan bwyll ddewis a chydweddu lliwiau o gasgliadau o batrymau gwlân brodio Appleton gyda lliwiau yn y cartŵn.  Parhaodd y gwaith hwn fisoedd lawer gyda'r gwaith o ysgrifennu'r cyfarwyddiadau ar gyfer gwaith y pwythwyr ar y ddau ar bymtheg ar hugain o baneli.  Roedd y rhain yn nodi lliw ac arlliw pob blewyn o borfa a'r dolennau ar diwnig.  Ar un panel yn unig, defnyddiwyd deg a thrigain o liwiau. Rozanne Hawksley oedd fy mhrif gynorthwyydd ac ysgrifennydd, ac o bryd i'w gilydd, fy arweinydd, yn ystod y rhan hirfaith a blinderus hon o'r prosiect.  Yn aml roedd rhaid gweithio min nos a phenwythnos.  Yr un pryd, roeddwn i'n dod i ben â phaentio ail a thrydedd rhan y cartŵn.

Unwaith yr oedd y pwytho wedi cychwyn, ymwelai'r merched â mi yn rheolaidd gyda'u paneli, eu gwaith olinio a chyfarwyddiadau er mwyn cymharu eu gwaith gyda'r cartŵn rhag ofn bod rhywbeth wedi ei anghofio neu eu bod wedi pwytho rhyw gamgymeriad neu fod camgymeriad wedi ei wneud yn y camgymeriadau.   Yn gyffredinol, ychydig iawn o wallau oedd wedi eu gwneud. Roedd rhannau i'r cartŵn a oedd yn anodd eu hesbonio yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig.  Ar gyfer y rhain, byddai Rozanne yn dodi seren fach gyda'r nodyn "Gwelwch Liz".   Hunllef i mi oedd ceisio egluro'r rhain, a gwaith cymhleth a thrafferthus i'r merched oedd eu pwytho.  Er enghraifft, lliw a manylion cymhleth ceg ceffyl.  Dyna oedd y drefn hyd nes bod y brodwaith wedi ei gwblhau. 

Yr ymylon oedd yr olaf i'w paentio, eu holinio a'u pwytho wedi i'r cyfieithwyr gwblhau'r Gymraeg a bod yn ddigon caredig i fwrw golwg am wallau yn y gwaith olinio.  Diben y geiriau gyda'r lluniau a'r addurniadau yw arwain yn unig, nid lleihau effaith yr hanes trwy ddarluniau.  

Wrth gwblhau'r disgrifiad byr hwn o waith dylunio'r brodwaith, hoffwn ddweud cymaint y mwynheais i weithio gyda'r deg a thrigain o bwythwyr.  Rwy'n siŵr bod rhoi'r gorau i waith brodio wedi eu hala nhw'n dost.  

Wedi ei ysgrifennu gan y ddiweddar Elizabeth Cramp

 

ID: 64 Adolygwyd: 9/12/2015

 





Tystebau Ymwelwyr y Tapestri
  • "The tapestry is a work of art."
  • "A wonderful story brilliantly shown."
  • "Gwaith o ddawn arbennig."