Hanes y Tapestri

 

Dewch i weld beth ddigwyddodd y tro diwethaf yr ymosodwyd ar dir mawr Prydain ym mis Chwefror 1797. Mae'r hanes ar y tapestri gwobrwyol 30 metr gogoneddus a gynhyrchwyd i nodi deucanmlwyddiant y digwyddiad yn 1997. Caiff y diwrnod hwnnw ei ail-greu trwy gymorth byrddau stori ac arteffactau ac mae'r ystafell glyweled yn dangos sut y gwnaed y tapestri.

Hanes y Glaniad

Wedi dechrau'r rhyfel rhwng Prydain a Ffrainc ym 1793, cynlluniodd y Cadfridog Hoche oresgyniad i ryddhau Iwerddon.  Er mwyn eu hatal rhag anfon milwyr wrth gefn i Iwerddon, y cynllun oedd y byddai dau gyrch bach yn glanio ar y tir mawr.  Byddai un o'r rhain yn ymosod ar Fryste neu pe byddai hynny'n methu, byddai'n glanio ym Mae Ceredigion a martsio i Lerpwl i ymuno â'r cyrch arall.


Ym mis Rhagfyr 1796, pan gyrhaeddodd cyrch Hoche ym Mae Bantry yn Iwerddon, fe'i drylliwyd gan stormydd ac aeth yn ôl yn whip reit i Frest.  Er iddynt roi'r gorau i un o'r cyrchoedd, hwyliodd y cyrch ar Brydain o Frest Chwefror y 16eg 1797.   Yr arweinydd oedd William Tate, Americanwr o Dde Carolina, a oedd wedi bod yn ymdrybaeddu mewn cynlluniau Ffrengig ac wedi symud i Baris.  Roedd y rhan fwyaf o'r milwyr o Ffrainc wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd milwrol Prydeinig wedi eu lliwio'n frown tywyll.   Felly, cafodd y 1200 o ddynion yn La Seconde Legion des Francs yr enw "Y Lleng Ddu".  Roedd y rhain yn gymysgedd o weriniaethwyr, brenhinwyr wedi'u carcharu a grenadwyr ac wedi eu harfogi'n dda iawn.  Roedd rhai o'r swyddogion yn Wyddelod.  Fe'u cludwyd mewn pedair llong newydd o dan y Comodor Castagnier.  

Wedi methu â chyrraedd Bryste, aeth Tate i gyfeiriad Bae Ceredigion.  Gwelwyd y sgwadron, dan liwiau Prydeinig, yn dod heibio i Benmaendewi yn Sir Benfro, Chwefror y 22ain ac yna angorodd mewn tywydd perffaith ar bwys Carreg Wastad, trwyn creigiog rhyw dair milltir i'r gorllewin o Abergwaun.  Yn ystod y nos daethpwyd â'r milwyr a'u harfau i'r lan. Felly, roedd y glaniad olaf gan filwyr y gelyn ar dir mawr Prydain wedi ei gyflawni'n llwyddiannus.  Rhuthrodd cwmni o grenadwyr filltir i mewn i'r tir a chipio fferm Trehowel, a ddaeth yn bencadlys i Tate.

Pan ddaeth un o'r llongau i mewn i Fae Abergwaun i wneud rhagarchwiliad, taniwyd ergyd o ganon gwag o Gaer Abergwaun. Ymadawodd y llong ar frys a bu'r ergyd yn fodd i rybuddio Gwirfoddolwyr Abergwaun.  Roedd y Gaer wedi ei harfogi mor wael y byddai cipio'r porthladd bach wedi bod yn rhwydd iawn.

Roedd William Knox, a oedd wedi bod yn ddiweddar yn Is-ysgrifennydd y Trefedigaethau Americanaidd, wedi ymgartrefu yn Sir Benfro ac roedd ei blas y Llanstian bedair milltir yn unig o Abergwaun.  Pan ddechreuodd y rhyfel roedd wedi codi Gwirfoddolwyr Abergwaun yn gyflym a phenodwyd ei fab, Thomas, yn Is-gyrnol.  Roedd mewn cyfarfod cymdeithasol ym Mhlas Tregwynt pan gafodd y newyddion eu bod yn tybio fod y gelyn wedi glanio.  Yn gyntaf, ni roddodd fawr o goel arno, gan nad oedd wedi gweld dim gweithgarwch gelyniaethus ar y llongau pell ond, pan ddechreuodd weld ei bod yn  sefyllfa ddifrifol, rhoddodd orchymyn i'w Wirfoddolwyr fynd i'w bencadlys yn y Gaer.  

Roedd yr Arglwydd Cawdor, a oedd yn gapten ar Farchfilwyr Iwmoniaid Penfro, ddeg milltir ar hugain o'r fan yn Llys Ystagbwll, ym mhen draw deheuol y sir.  Pan glywodd y newyddion, dechreuodd symud ei filwyr ar unwaith a chroesodd ar Fferi Penfro gyda Gwirfoddolwyr Penfro a Milisia Sir Aberteifi.  Roedd y rhan fwyaf o'r clod am gasglu llu o oddeutu pedwar cant o filwyr a morwyr yn Hwlffordd yn ddyledus i egni'r Is-gyrnol Colby, a garlamodd wedi hynny i Abergwaun i weld beth oedd sefyllfa Knox.  Yn fodlon, dychwelodd i Hwlffordd i oruchwylio'r lluoedd yn cyrraedd.  Daethpwyd â phres y llynges a chriwiau dwy o longau bach y refeniw gyda'u canonau i mewn o Aberdaugleddau.  Hanner dydd, Chwefror y 23ain,  aethant o Hwlffordd, dan arweiniad Cawdor, i atgyfnerthu Knox, a oedd yn wynebu'r Ffrancod yn Abergwaun. 

Newyddion am ildio diamod

Bore'r 23ain, sylweddolodd Knox bod niferoedd y gelyn yn llawer mwy a phenderfynodd symud tuag at ei filwyr wrth gefn.  Nawr roedd Abergwaun ar drugaredd Tate.  Er bod llawer o'r trigolion yn ffoi mewn dychryn o'r ardal, roedd cannoedd o sifiliaid yn heidio i mewn i'r ardal wedi'u harfogi ag amrywiaeth o arfau bras.  Aeth Knox a'i ddynion i gwrdd â'r milwyr ychwanegol yn Nhrefgarn ac arweiniodd Cawdor y lluoedd yn ôl i gyfeiriad Abergwaun. 

Wrth agosáu, penderfynodd Cawdor ymosod ond wedi colli ei ffordd yn y tywyllwch, penderfynodd ymgilio i Abergwaun, gan osgoi o drwch blewyn ymosodiad cudd a oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.  Roedd y swyddogion yn sefyll yn Nhafarn y Dderwen. 

Fodd bynnag, doedd  hi ddim mor dda ar Tate erbyn hyn.  Roedd llawer o'i griwiau chwilota wedi gorfod ysbeilio ffermydd lleol ac Eglwys Llanwnda.  Roedd y diffyg disgyblaeth yn mynd yn rhemp.  Daeth yn amlwg i Tate bod y werin Gymreig leol yn elyniaethus i'w lu o "ryddhawyr" ac roedd chwech o wladwyr a milwyr wedi eu lladd.  Roedd llawer o'r swyddogion Gwyddelig yn ei gynghori i ildio.  Roedd ymadawiad sgwadron Castagnier fel y bwriadwyd, am Iwerddon, wedi syfrdanu a digalonni'r dynion a oedd wedi gweld eu ffordd i ryddid yn diflannu dros y gorwel.  Mae tystiolaeth gref hefyd bod y Ffrancod wedi eu twyllo gan nifer fawr o wragedd lleol a ddaeth i'r golwg yn y gymdogaeth yn eu gwisg draddodiadol, sef y siôl goch a'r het ddu, a oedd o bell yn debyg iawn i wisgoedd troedfilwyr.  Roedd trigolion o ardal eang yn heidio i gyfeiriad Abergwaun i ymosod ar y gelyn.  Cipiwyd dwsin o filwyr Ffrengig gwangalon gan wraig leol, Jemima Nicholas, pladures o grydes gref, a'u cloi yn Eglwys Fair.   Y noson honno daeth dau gynrychiolydd o blith y Ffrancod i Dafarn y Dderwen i drafod ildiad amodol.  Ond atebodd Cawdor, a'u cafflo'n wych, na fyddai yntau a'u niferoedd mwy, yn derbyn dim llai nag ildiad diamod, neu byddai ymosodiad ar y Ffrancod. 

Y bore wedyn, sef Chwefror y 24ain, roedd y llu Prydeinig yn eu cadresi, a channoedd o sifiliaid wrth gefn, yn disgwyl ymateb Tate.  Fodd bynnag, derbyniodd Tate yr amodau ac yn y diwedd, gyda'r drymiau yn taro, martsiodd y Ffrancod i lawr i draeth Wdig a phentyrru eu harfau.  Cawsant eu martsio drwy Abergwaun ar eu ffordd i'r ddalfa dros dro yn Hwlffordd.  

Erbyn hyn, roedd Cawdor wedi marchogaeth bant i fferm Trehowel ac wedi derbyn ildiad Tate a'i gleddyf.  Roedd y glaniad wedi dod i ben ond roedd y cwbl wedi bod yn ysgytwad milain i'r llywodraeth a bu'r adleisiau'r glaniad yn diasbedain am gyfnod hir.  

Ysgrifennwyd gan y diweddar Bill Fowler, Cadeirydd Pwyllgor y Daucanmlwyddiant.

 

 

 

ID: 63 Adolygwyd: 24/8/2021

 





Tystebau Ymwelwyr y Tapestri
  • "The tapestry is a work of art."
  • "A wonderful story brilliantly shown."
  • "Gwaith o ddawn arbennig."